Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
11 Hydref 2017
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
(30 munud)
(0 munud)
Ni ddewiswyd unrhyw gwestiynau amserol.
(5 munud)
(60 munud)
NDM6524 Russell George (Sir Drefaldwyn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei ymchwiliad i effaith tagfeydd ar wasanaethau bysiau a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Gorffennaf 2017.
Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 4 Hydref 2017.
(60 munud)
NDM6525 David Rees (Aberafan)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ei ymchwiliad i oblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd i borthladdoedd Cymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Awst 2017.
Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 4 Hydref 2017.
(60 munud)
NDM6526 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu:
a) mai busnesau bach yw calon economaidd a chymdeithasol y stryd fawr yng Nghymru ond bod y gyfundrefn ardrethi busnes bresennol yn rhoi manwerthwyr mewn dinasoedd a threfi bach o dan anfantais sylweddol;
b) bod ardrethi busnes o'u hanfod yn annheg oherwydd mai ychydig, os unrhyw, berthynas sydd rhyngddynt â phroffidioldeb busnes a'u bod yn cael effaith iasol ar ganol trefi drwy ychwanegu costau sylweddol i'r broses o sefydlu busnesau newydd;
c) y byddai lleihau effaith ardrethi busnes yn helpu busnesau i oroesi'r heriau a achosir gan siopa ar y rhyngrwyd ac yn rhoi hwb sylweddol i'r stryd fawr.
2. Yn penderfynu:
a) fel mesur dros dro, hyd nes y caiff ardrethi busnes eu disodli gan dreth sy'n gysylltiedig â'r gallu i dalu, y dylai safleoedd busnes sydd â gwerth ardrethol o lai na £15,000 gael eu heithrio ac y dylai cyfraddau eiddo busnes sydd o fewn y band o £15,000 i £50,000 gael eu gostwng 20 y cant;
b) y dylai awdurdodau lleol Cymru annog masnach leol drwy gynnig parcio am ddim am o leiaf 60 munud mewn meysydd parcio canol tref;
c) y dylai datblygiadau siopa ar gyrion y dref ysgwyddo cyfran fwy ond rhesymol o'r baich ardrethi busnes ac y dylai cyfraddau o'r fath fod yn berthnasol i'w meysydd parcio, i helpu i adfywio canol trefi.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg):
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd microfusnesau a busnesau bach a chanolig i lwyddiant cymunedau ac economi ehangach Cymru.
2. Yn nodi pwysigrwydd allweddol polisïau traws-lywodraethol sy'n cefnogi busnesau ar strydoedd mawr Cymru i ffynnu a thyfu.
3. Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi manwerthwyr y stryd fawr a busnesau eraill drwy ddarparu dros £200m o gyllid yn 2017-18 i gefnogi tua thri chwarter talwyr ardrethi yng Nghymru drwy ryddhad ardrethi.
4. Yn cydnabod nad yw dros hanner holl fusnesau Cymru'n talu unrhyw ardrethi o gwbl yn ystod 2017-18.
5. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i sefydlu cynllun parhaol Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach sy'n fwy syml, yn fwy teg ac sy'n fwy penodol ar gyfer busnesau sy'n tyfu yng Nghymru o fis Ebrill 2018.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu'r penderfyniad i ddatganoli ardrethi busnes i Lywodraeth Cymru yn llawn a'r potensial y mae hyn yn ei ddatgloi.
[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-dethol]
Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) dileu ardrethi busnes ar gyfer pob busnes sydd â gwerth ardrethol o hyd at £10,000 y flwyddyn, a rhoi cymorth sy'n lleihau'n raddol i fusnesau sydd â gwerth ardrethol o rhwng £10,000 ac £20,000;
b) eithrio pob busnes rhag talu unrhyw ardrethi yn ystod eu blwyddyn gyntaf o fasnachu, er mwyn annog dechrau busnesau newydd ledled Cymru;
c) cyflwyno lluosydd hollt ar gyfer busnesau bach a mawr fel yn yr Alban a Lloegr; a
d) archwilio disodli ardrethi busnes yn gyfan gwbl gan ffurfiau eraill o drethi nad ydynt yn rhwystro cyflogaeth, adfywio canol trefi a buddsoddi mewn gwaith a pheiriannau.
Gwelliant 4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi llywyddu dros y gyfradd uchaf o eiddo gwag ar y stryd fawr ym Mhrydain Fawr yn 2017, sef 14.5 y cant.
Gwelliant 5. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) diddymu ardrethi busnes ar gyfer yr holl fusnesau bach sydd â gwerth ardrethol o hyd at £15,000; a
b) diwygio'r system ardrethi busnes ac ymchwilio i hollti lluosydd Cymru i gynyddu cystadleurwydd busnesau llai.
Gwelliant 6. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ymestyn y cyllid sydd ar gael i gefnogi cynlluniau peilot parcio am ddim yng Nghymru.
(30 munud)
NDM6522 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Gwarchod a datblygu canolfannau rhanbarthol o ragoriaeth feddygol
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 17 Hydref 2017